Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

Wythnos Addysg Oedolion 2011

llun wythnos oedolionLansiwyd Wythnos Addysg Oedolion yn Sir Fynwy gyda phrynhawn gwobrwyo yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Gilwern ar y Dydd Gwener blaenorol.

Roedd cynrychiolaeth dda o’r Coleg yn bresennol i wylio tiwtoriaid yn derbyn gwobrwyon am eu gwaith, a’u hysbrydoliaeth.  Enwebwyd rhai o’r rhain gan eu dysgwyr.

Er mwyn ceisio denu dysgwyr newydd i ganolfannau’r Sir, a chanfod ble roedd diddordeb penderfynwyd cynnig cyrsiau blasu ar draws y Sir. Cynhaliwyd rhain yn Nhrefynwy, Cilycoed a Chasgwent, a daeth digon i’r cwrs yn Nhrefynwy i allu cynnig dosbarth newydd i ddechreuwyr yno ym Mis Medi

 

llinell

llun tiwtor torfaenTiwtor y Flwyddyn, Torfaen

Dyma Paul Roberts, enillydd Tiwtor Y Flwyddyn, Torfaen.  Mae Paul yn dysgu Cymraeg i Oedolion yng Nghanolfan Addysg Croesyceiliog ers tua 3 blynedd nawr.  Mae e’n boblogaidd iawn gyda’r dysgwyr ac ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, mae Paul yn parhau gyda’r dysgu (am ddim hefyd) nes i’r ganolfan gau.  Mae llawer o bobl yn ei ddosbarthiadau.
Diolch yn fawr i ti Paul a llongyfarchiadau!

 

 

Dysgwr y Flwyddyn, Torfaen

Derek Cooling yw enillydd Dysgwyr y Flwyddyn, Torfaen eleni.

Cafodd Derek ei eni a’i fagu ym Mhont-y-pŵl.  Cafodd ei addysg yn Ysgol Y Twmpath, Pont-y-pŵl hefyd.

Ym 1970 ymunodd e â’r fyddin a dyna oedd ei fywyd am bum mlyneddd ar hugain.
Ond cafodd anaf i’w gefn wrth hyfforddi yn yr Almaen ac ers hynny mae e’n gwisgo offer arbennig ar ei goesau a monitor ar ei gefn i’w gadw’n syth. Hebddyn nhw a thabledi cryf, basai fe mewn lot fawr o boen.

llundysgwr torfaenDechreuodd Derek ddysgu Cymraeg dair blynedd a hanner yn ôl. A beth oedd ei reswm wrth dysgu’r iaith te? Wel, aeth e i weld y Dreigiau gyda ffrind. Yn ystod yr egwyl dechreuodd ei ffrind siarad Cymraeg â dyn oedd yn sefyll drws nesa i Derek.  Dwedodd e, ‘Come on boys I can’t understand a word you are saying!’
Ymateb y ddau ohonyn nhw oedd, ‘Well get yourself onto a course then!’ a dyna beth wnaeth e!

Dyw e ddim yn hawdd i Derek fynd o gwmpas ond dyw e byth yn ei stopio rhag dysgu Cymraeg!

Mae e’n mynd i ddosbarth (Uwch) wythnosol bob nos Fercher ar Gampws Pont-y-pŵl ac mae e’n mynychu sesiynau Dysgu Anffurfiol Torfaen e.e.

Mae e’n siarad Cymraeg â ffrind ar y ffôn bob dydd ac yn mynd ar wyliau ble mae e’n gallu defnyddio’r iaith. Mae ganddo agwedd mor bositif tuag at ddysgu’r Gymraeg, ac at fywyd yn gyffredinol. Mae e’n ysbrydoliaeth i ni i gyd.

llinell