Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl adolygiad

Tense and Aspect in Informal Welsh

gan Bob Morris Jones

(2010) Berlin: de Gruyter Mouton
(389 o dudalennau)
ISBN 78‑3‑11‑022796‑3

llinell

Mae yna groeso mawr i gyhoeddiad diweddaraf Bob Morris Jones sydd, dros y blynyddoedd, wedi cyfrannu’n helaeth at ein deallusrwydd o ramadeg y Gymraeg drwy gyhoediadau fel Ar Lafar ac ar Bapur (1993) a The Welsh Answering System (1999). Yn Tense and Aspect in Informal Welsh, rhaid canmol yr awdur am fynd i’r afael â phwnc sydd, yn y gorffennol, heb dderbyn y driniaeth y mae’n ei haeddu. Wedi dweud hynny, rhaid cadw mewn cof mai astudiaeth academaidd ydyw, a rhaid i’r darllenydd lleyg feddu ar amynedd, stamina ynghyd â geiriadur termau gramadeg da i gael y mwyniant a’r lles mwyaf ohono!

MaeTense and Aspect in Informal Welsh yn rhan o’r gyfresTrends in Linguistics gan y cyhoeddwr llyfrau ieithyddiaeth byd‑enwog, de Gruyter Mouton, ac fel yr awgryma’r teitl, mae’r gyfrol hon yn trafod swyddogaeth amser (tense) ac agwedd (aspect) mewn Cymraeg anffurfiol. Ceir ynddi hefyd drafodaeth ddiddorol ar y gwahaniaethau agweddol rhwng ffurfiau amherffaith a gorffennol syml bod, e.e. oeddwn i’n darllen trwy’r bore v. fush i’n darllen trwy’r bore (tt. 134‑141) a dangosir sut y mae ffurfdroadau (inflections) berfau cryno yn cyfleu cysyniadau fel ffeithioldeb (factuality) ac arferoldeb (habituality). Ond mae’r gwaith hwn yn wahanol i astudiaethau blaenorol, mwy traddodiadol o ramadeg y Gymraeg yn gymaint ag y mae’n ystyried agwedd fel ffenomen ar wahân i amser a modd (mood).

Mae Tense and Aspect in Informal Welsh wedi ei rhannu’n 10 pennod sy’n digwydd mewn trefn resymegol ac yn cyd‑fynd â’r hyn y mae’r awdur yn ceisio ei wneud, sef cyflwyno dadansoddiad cynhwysfawr o amser ac agwedd mewn Cymraeg anffurfiol. Dylai Pennod 1 fod o ddiddordeb mawr i’r sawl sydd heb fod yn gwbl gyfarwydd â gramadeg y Gymraeg. Yma ceir esboniad o’r gwahanol fathau o gymalau sydd i’w cael yn y Gymraeg a sut y mae ffurfdroadau’r ferf gryno yn gweithio.

Drwy’r gyfrol mae’r awdur yn derbyn amser fel categori gramadegol y gellir ei rannu’n fras yn orffennol, presennol a dyfodol (cf. Reichenbach [1947] a Lyons [1968]). Mae hyn yn debyg iawn i astudiaethau diweddar o ramadeg y Gymraeg (cf. Thorne [1993] a Thomas [1996]). Fodd bynnag, ystyrir agwedd yn wahanol:

It is possible to set up other periods of time which, although they occur within a deicticperiod (cyfnod cyd‑destunol), are defined in relation to some reference time other than the time of utterance … The reference time can be in the deictic past, the deictic present or the deictic future, and a relative period of time can be located within the deictic periods (t. 29) h.y. nid ystyrir fod yr agwedd berffaith, er enghraifft, yn gosod gweithred neu ddigwyddiad mewn amser real neu gyd‑destunol, ond yn hytrach, ei bod hi’n digwydd cyn yr amser y cyfeirir ato, neu’r cyfeirbwynt, e.e. yn Dw i wedi darllen y Maes, nid y ffaith fod y weithred yn digwydd yn y gorffennol sy’n bwysig ond y ffaith ei bod wedi digwydd cyn y cyfeirbwynt, sef y presennol yn yr achos hwn. (Mae’r ffaith na chanateir adferf seml gyda’r perffaith yn ategu’r ddadl hon, e.e. nid yw brawddeg fel: Dw i wedi mynd i’r dafarn neithiwr yn dderbyniol nac mewn Cymraeg ffurfiol nac mewn Cymraeg anffurfiol.)

Mae’r awdur yn cyfeirio at agwedd gystrawennol, sef y gwahaniaeth rhwng y nodyddion agwedd (aspectual markers) yn (amherffaith) ac wedi (perffaith), ond nid yw’n cadw at y dadansoddiad traddodiadol o amser a modd (mood). Er enghraifft, cydnebydd bedwar amser gorffennol mewn Cymraeg anffurfiol (t. 120):

Mae hyn yn taro dyn yn ormodol gan fod amser fel arfer yn cael ei neilltuo i’r modd mynegol (indicative mood) yn unig, e.e. Dw i’n hoffi mynd i Lydaw (gosodiad, amser presennol, modd mynegol) v.Hoffwn i fynd i Lydaw (dymuniad, amodol dichonadwy, modd dibynnol) (Brake [1998], tt. 116-120). Ac eto,mae yna ffurf arall ar y gorffennol arferiadol sy’n defnyddio ffurfiau personol gorffennol amherffaithbod+ yr enw arfer. e.e.Roedd Mair yn arfer gweithio bob nos.
Mae’r awdur yn gwahaniaethu rhwng tri math o ferfau:(i) berfau geiregol (lexical verbs), e.e. canu, (ii) berfau moddol (modal verbs), e.e. gallu a (iii) bod (t. 168), ac mae’n darganfod cyfyngiadau morffolegol arnynt, e.e. nid yw berfau geiregol yn meddu ar ffurfdroadau presennol tra nad yw berfau moddol yn meddu ar ffurfdroadau dyfodol. Ar y llaw arall, mae gan bod ffurfdroadau presennol, dyfodol ac amherffaith. Dangosir y patrwm hwn yn Nhabl 1.

Tabl 1. Cyfyngiadau morffolegol ar ferfau yn y Gymraeg


Amser

Berfau geiregol

Berfau moddol

Bod

Presennol

----------

gallith

mae

Dyfodol

canith

----------

bydd

Amherffaith / Amodol

canai

gallai

byddai

Ym Mhennod 9, mae’r awdur yn archwilio’r hypothesis fod yna fwy na dau nodydd agwedd (aspect markers) yn y Gymraeg. Fodd bynnag, ar ôl trafodaeth drwyadl, mae’n gwrthod yr hypothesis hwn ac yn dod i’r casgliad fod y Gymraeg yn meddu ar ddwy brif system agweddol yn unig, a gynrychiolir gan y noddyddion agwedd yn (amherffaith) ac wedi (perffaith). Ond nid yw’n ymwrthod yn llwyr â’r posibiliad y gall fod yna ddau nodydd agwedd arall, sef heb a newydd, e.e. ma’ Sioned heb fod yn gweithio a dw i newydd fod yn siarad efo Gwilym.

O ran data, tynnir ar brofiad yr awdur ei hunan o Gymraeg llafar anffurfiol ynghyd â siaradwyr dethol a holwyd yn uniongyrchol. Mae’r dull hwn yn dderbyniol mewn astudiaethau o’r fath, ond tybed a yw’n rhoi’r pictwr go‑iawn? Dangosodd Labov (1972) fod arddull lafar siaradwyr yn amrywio yn ôl y cyd‑destun sefyllfaol y digwyddant ynddo. Disgrifir pum math o’r cyfryw gyd‑destunau ganddo, ac fe’u trefnir ar raddfa yn ôl ffurfioldeb y sefyllfa:

1.         Cyd-destun A                  Llafar Digymell                  (Casual Speech)
2.         Cyd-destun B                  Arddull y Cyfweliad                  (Interview Style)
3.         Cyd-destun C                  Arddull Ddarllen                  (Reading Style)
4.         Cyd-destun Ch                  Parau Lleiafaint                  (Minimal Pairs)

Egwyddor arall sy’n codi yn sgil gwaith Labov yw mai yn yr arddull fwyaf digymell y canfyddir strwythur mwyaf cyson iaith siaradwr. Tybed a yw rhagdybiaethau (isymwybodol) yr awdur ynghyd â ffurfioldeb y sefyllfa wrth iddo holi eraill wedi effeithio ar y data y seilir yr astudiaeth hon arnynt?

Ystyriaeth bellach yw’r tueddiad gan yr awdur i greu brawddegau angramadegol i ddangos nad yw patrwm yn bosib mewn Cymraeg anffurfiol, e.e. *oedd y llanw yn mynd allan am naw yfory (t. 40), *wybodish i’r ateb (t. 145), *fush i’n gallu pasio’r lori (t. 277). Mae hyn wrth gwrs yn cael ei wneud i brofi pwynt, a rhagflaenir pob enghraifft felly gan seren. Ond fe all yr arfer hon ddrysu darllenwyr lleyg yr un peth.

I gloi, credaf fodTense and Aspect in Informal Welsh yn ychwanegiad gwerthfawr iawn at y corpws o gyhoeddiadau ysgolheigaidd ar ramadeg y Gymraeg yn yr iaith Saesneg, sydd yn ei dro’n gwneud y Gymraeg yn hygyrch i gynulleidfa fyd-eang.Ynddo ceir astudiaeth gynhwysfawr o agwedd bwysig iawn ar ramadeg y Gymraeg mewn ffordd newydd a ffres.Nid cyfrol hawdd ei darllen yw hon, ond ni all neb wadu nad yw’n gyfraniad gwerthfawr at ein gwybodaeth o sut mae’r iaith lafar yn gweithio ac yn dal i ddatblygu. Mae’r awdur ei hunan yn awgrymu y gallai’r astudiaeth hon fod yn ddechreu bwynt addas i astudiaethau teipolegol, sosioieithyddol a thafodiethegol pellach (t. 345-6).

Phylip Brake
Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru
Ebrill 2011

llinell

Cyfeiriadau
Brake, P, (1998) Cymraeg Graenus, Llandysul: Gwasg Gomer
Jones, B. M. (1993) Ar Lafar ac ar Bapur: Cyflwyniad i’r Berthynas rhwng yr Iaith Lafar a’r Iaith Ysgrifenedig, Aberystwyth: Canolfan Astudiaethau Addysg.
Jones, B. M. (1999) The Welsh Answering System, Berlin / Efrog Newydd: Mouton de Gruyter.
Labov, W. (1972) Sociolinguistic Patterns, Gwasg Prifysgol Pennsylvania.
Lyons, J. (1968) Introduction to Theoretical Linguistics, Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
Reichenbach, H. (1966) Elements of Symbolic Logic, Llundain: MacMillan.
Thomas, P. W. (1996) Gramadeg y Gymraeg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Thorne, D. A. (1993) A Comprehensive Welsh Grammar, Rhydychen: Blackwell.

llinell