Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y Gymraeg a’r Gleision

Cafodd dysgwyr Caerdydd a Bro Morgannwg ddiwrnod i’w gofio ar ddydd Sadwrn, 12 Rhagfyr. Roedd y ganolfan wedi trefnu bod cefnogwyr y Gleision yn cael gwers Gymraeg cyn y gêm fawr yn erbyn Toulouse. Rhoddwyd y teitl ‘Warm up your Welsh’ / ‘Twymo’r Tafod’ i’r sesiwn a oedd yn cynnwys dysgu termau rygbi tebyg i sgrym, rhedeg, ochrgamu a Gleision. Bwriad y fenter yw annog mwy o bobl i ddysgu’r iaith drwy ymgymryd ag un o’u diddordebau. Cynhaliwyd y sesiwn yn Stadiwm Clwb Pêl-droed Caerdydd gan ddechrau am 1.30 a gorffen am 3.30, sef chwarter awr cyn i’r gêm ddechrau. Roedd y sesiwn yn costio £29 ac yn cynnwys bwffe cynnes, cwis, sesiwn siarad gyda’r chwaraewyr a thocyn i’r gêm. 

Daeth 25 o gefnogwyr ynghyd i gymryd mantais o’r cynnig gan fwynhau’r wers a'r adloniant cyn y gêm yn fawr iawn, gyda llawer wedi nodi eu henwau ar gyfer y cwrs Blasu newydd, sef cwrs dysgu y mae’r Ganolfan yn ei ddatblygu ar y thema rygbi.

Daeth dau siaradwr gwadd i ymuno yn yr hwyl. Gareth Edwards oedd y cyntaf i ymddangos gan roi syrpreis anferth i bawb! Yn ei ffordd hwyliog ef ei hun, dywedodd stori amdano’n chwarae rygbi i'r Llewod ac ar fin cael ei yrru i ffwrdd am regi ar y dyfarnwr. Ar y foment honno rhedodd y capten (Gwyddel) draw a gofyn i'r dyfarnwr beth oedd yn bod. Gwrandawodd ar esboniad y dyfarnwr cyn dweud 'No, no, ref, you don't understand - he wasn't swearing at you, he was calling the next move to his outside half in Welsh!' A dyma'r dyfarnwr yn ateb, 'Well, if that's the case, I'm very sorry, you can stay on!' A'i neges, wrth gwrs, oedd ei bod hi’n werth dysgu Cymraeg oherwydd dydych chi byth yn gwybod pryd byddwch chi ei hangen hi!

Yr ail siaradwr oedd Alun Wyn Bevan ac mi roddodd gyflwyniad lliwgar ac ysbrydolgar iawn i'r criw hefyd am y budd o ddysgu Cymraeg. Y gobaith yw bod y digwyddiad wedi esgor ar fwy o ddiddordeb yn y Gymraeg ymysg cynulleidfa ehangach na’r arfer. Roedd yn gyfle hefyd i farchnata ar raddfa eang oherwydd cafodd y digwyddiad ei hyrwyddo ar wefan y Ganolfan, gwefan y Gleision, rhaglen y Gleision cyn y gêm yn erbyn Connacht yr wythnos gynt ac yn y South Wales Echo.

llinell