Dyma rifyn cyntaf y cylchgrawn ar-lein hwn i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Dyma gyfle i fanteisio ar y rhwydweithio o fewn y maes Cymraeg i Oedolion gan greu cysylltiadau newydd a rhannu gwybodaeth a newyddion. Hefyd, yn bwysicach na dim, dyma gyfle i rannu adnoddau i gefnogi gwaith ein gilydd yn y maes cyffrous hwn.
Ceir yma hefyd wybodaeth am y canolfannau Cymraeg i Oedolion ac am arholiadau perthnasol. Ewch, yn ogystal, i’r adran Dolenni er mwyn dod o hyd i wybodaeth ehangach a defnyddiwch y botwm Cysylltu er mwyn anfon unrhyw sylwadau ac adborth atom.
- Beth yw’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion?
Cip ar y chwe chanolfan iaith ranbarthol. - Sefydlu dosbarth Cymraeg i Rieni
Profiad Felicity Roberts yn Aberystwyth - CERED a Mentrau Iaith Cymru
Beth sy’n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyd a lled y wlad? - Proffil Nic Dafis
Morfablog, Maes-e a minnau. - Emyr Davies yn Filniws
Cyfarfod ALTE yn Lithwania Hefyd, os ydych chi’n chwilio am ddeunydd dysgu ar gyfer eich dosbarthiadau, ewch i’r adran ‘ Deunydd Dysgu’. Yn ogystal â thaflenni gwaith, erthyglau a syniadau am wahanol gemau ceir yno hefyd ‘ Olwg ar Gymru’. Llangrannog yng Ngheredigion sy’n cael y sylw y tro hwn gyda thasgau amrywiol yn seiliedig arno.