Mae disgwyl i bob aelod o ALTE gael awdit yn ystod 2007. Bydd arbenigwr yn ymweld â’r sefydliad i roi cyngor ynglŷn â phob agwedd yn ymwneud â chynnal yr arholiadau. Mae’r rhain yn dilyn dull Rheoli Ansawdd o fonitro safonau, a rhaid i bob sefydliad gyflwyno proffil ansawdd i ateb gofynion y Safonau angenrheidiol. Mae 17 o safonau wedi eu rhannu yn ôl y themâu canlynol:
- Adeiladu’r Arholiadau
- Gweinyddu’r Arholiadau
- Marcio a Graddio
- Dadansoddi’r Profion
- Cyfathrebu â Budd-ddeiliaid
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y safonau eu hunain ar wefan ALTE: www.alte.org. O safbwynt CBAC, yr arholiadau Mynediad a Sylfaen fydd yn cael awdit yn Rhagfyr 2007. Pwrpas y gweithdy oedd trafod dehongli’r safonau hyn, a cheisio cymharu sut mae awditwyr gwahanol yn gwneud eu gwaith. Mae’n amlwg fod profiadau a dulliau gwahanol iawn ar draws 31 o wledydd, a 26 o ieithoedd, ac mae’n mynd i fod yn dasg anodd cysoni’r ffordd y mae awditwyr yn gweithredu.
Mae diwrnod olaf y cyfarfod yn gynhadledd agored, ac yn gyfle i wahodd tiwtoriaid a phobl sy’n ymwneud â’r arholiadau i weld gwaith ALTE a chlywed darlithiau am wahanol agweddau ar yr hyn sy’n digwydd yn lleol. Cafwyd anerchiadau gan gynrychiolwyr o’r Weinyddiaeth Addysg a Senedd Lithwania, yn ogystal â phanel o arbenigwyr o’r tair gwlad Faltig. Pwnc llosg arall mewn llawer o wledydd yw polisi a deddfwriaeth am orfodi mewnfudwyr i sefyll arholiadau. Mae nifer o aelodau ALTE ynghlwm â’r gwaith o sicrhau bod arholiadau iaith o’r fath, e.e. er mwyn caniatáu dinasyddiaeth, yn deg ac yn addas. Bydd crynodeb o’r darlithiau, a darlithiau o gynadleddau’r gorffennol, ar gael ar wefan ALTE.
Mae cyfarfod nesaf ALTE yn gynhadledd agored; fe’i cynhelir ym Mhrifysgol Caergrawnt o 10-12 Ebrill 2008. Eto, mae’r manylion ar y wefan.
Emyr Davies
Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion