Dyma ddyddiadau arholiadau Cymraeg i Oedolion ar gyfer 2008.
Bydd yr ymgeiswyr yn cofrestru drwy’r canolfannau rhanbarthol.
Sylwch fod yr arholiad Mynediad ar ôl y Pasg! Sylwch hefyd ar y dyddiadau cau!!
*Ni chaniateir i ymgeiswyr sefyll yr arholiadau ar ddyddiadau heblaw’r rhai a nodir.
** Bydd cyfle i sefyll yr arholiad DG: Mynediad ar nos Iau 24 Ebrill 2008 - os bydd y ganolfan addysgu (y coleg neu’r adran) yn gallu darparu hynny.
Bydd y papurau yn wahanol i’r rhai a ddefnyddir ar y dydd Gwener.
Bydd llyfrynnau i ymgeiswyr ar gyfer y cymwysterau uchod ar gael o’r swyddfa o ddechrau Awst 2007, ac mae cyn-bapurau, manylebau a phecynnau paratoi ar gael am ddim i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion.
Am ragor o wybodaeth a chopïau o fanylebau ac ati, cysylltwch â:
Cymraeg i Oedolion, CBAC, 245 Rhodfa’r Gorllewin, CAERDYDD, CF5 2YX,
neu cymraegioedolion@cbac.co.uk neu ffonio 02920 265007.