Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl a llun Akiko
Robert a Lynda Pritchard Newcombe
gydag Akiko yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

llinell

Dim ond Siapaneg, Cymraeg a Saesneg dw i’n siarad ar hyn o bryd!!!

Dechreuodd Akiko Matsuyama ymddiddori yn y Gymraeg a Chymru pan roedd hi’n dysgu Saesneg mewn dosbarth nos gyda thiwtor o Gymru yn Tokyo, a phenderfynodd hi ddysgu Cymraeg yng Nghaerdydd. Dechreuodd hi yn 1997 yn ystod ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd pan gynigiwyd deg gwers yn Undeb y Myfyrwyr gyda’r tiwtor Nia Parry. Yn ystod y pedair blynedd yng Nghaerdydd safodd hi arholiad TGAU hefyd.  

Chafodd hi ddim llawer o gyfle i siarad Cymraeg yn ôl yn Siapan, ond ail-gydiodd hi y llynedd ar gwrs haf yn Aberystwyth ac eto eleni pan aeth hi i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Weithiau mae hi’n cwrdd â grŵp o bobl sy’n dysgu Cymraeg gyda’i gilydd yn Tokyo unwaith y mis. Mae’n debyg iddi ddysgu Almaeneg am dipyn bach yn y coleg hefyd, ond dim ond Siapanaeg, Cymraeg a Saesneg mae hi’n dweud ei bod hi’n siarad ar hyn o bryd.  Dim ond!!!

llinell