Cynllun Dysgu Unigol newydd
Canolfan Cymraeg i Oedolion
Gogledd Cymru
Yn dilyn ymchwil a gomisiynwyd yn ddiweddar ar effaith y Cynlluniau Dysgu Unigol (CDU) yn y dosbarth, rydym wedi gwrando ar farn ein Tiwtoriaid a’r dysgwyr yn y Gogledd. Erbyn hyn, mae tîm y ganolfan wedi bod yn brysur yn creu y CDU newydd, sef ‘Taith Iaith’. Mae pwrpas mwy penodol i’r Taith Iaith, sef gwella defnydd y dysgwyr o’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth.
Os ydych chi yn defnyddio ‘Taith Iaith’ efo’ch dysgwyr ‘rydym yn awyddus i glywed eich barn ar hwn yn ogystal, a hefyd fe fydd sesiwn yn cael ei chynnal ar ‘Taith iaith’ yng nghynhadledd Cymraeg i Oedolion y Gogledd.
Cliciwch yma ar gyfer Bwletin Tiwtoriad Gogledd Cymru