Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun Gareth MorganProffil Dysgwr:

Yn yr ystafell ddosbarth fach yn Neuadd Les Pontiets rhaid oedd tynnu Gareth Morgan o’i gyfrifiadur ac o wefan Y Tiwtor er mwyn cael sgwrs ag ef, ac roedd hynny’n arwydd da iawn!
Daw yn wreiddiol o Gastell Nedd ond mae’n byw erbyn hyn ym Mhorth Tywyn. Arferai teulu ei dad-cu a mam-gu siarad Cymraeg ond collwyd y Gymraeg yn ystod y genhedlaeth nesaf. Fodd bynnag, penderfynodd frwydro yn erbyn y llanw ac mae’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith fod ei wyres fach, Haf, yn medru’r Gymraeg ac yn mynd i Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn. 

Cyn iddo ymddeol, roedd Gareth Morgan yn gweithio fel syrfëwr siartredig gyda nifer o gynghorau sir ar hyd a lled De Cymru. O Gymer Afan a Chastell Nedd i Gaer Wysg a Chaerdydd. Wrth ymddeol ac yn rhagweld y byddai ganddo ychydig o amser hamdden, un o’i addunedau oedd dysgu Cymraeg. Nid oedd wedi defnyddio unrhyw Gymraeg o gwbl yn ystod ei yrfa ond erbyn hyn mae’n dysgu ers pedair blynedd ac yn mwynhau’r profiad yn fawr iawn. Dechreuodd gyda Chwrs Wlpan yng Nghastell Nedd gan symud wedyn i Borth Tywyn a chwblhau’r cwrs Sylfaen dan arweiniad Ruth Morgan. Ar hyn o bryd mae’n mynychu dosbarth canolradd dan ofal y tiwtor Caryl Clement ac mae wrth ei fodd gydag awyrgylch hyfryd y dosbarth. Mae 11 o fyfyrwyr yn y dosbarth canolradd ac roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi cychwyn gyda’i gilydd ar y daith i ddysgu Cymraeg bedair blynedd yn ôl. Un o rinweddau mawr y dosbarth hwn, yn ôl Gareth, yw’r blog unigryw ac anogir pob aelod i gyfrannu’n wythnosol.

Mae Gareth wedi llwyddo yn yr arholiadau Mynediad a Sylfaen ac mae’n cael budd mawr o ochr gymdeithasol y dysgu. Mae’n aelod ffyddlon o’r grŵp Cymraeg anffurfiol sy’n cyfarfod bob nos Fawrth yng Ngwesty’r George, Porth Tywyn. Un o’i ddiddordebau mawr eraill yw canu ac mae’n mwynhau bod yn rhan o’r Grŵp Opera Amatur ym Mhorth Tywyn. Yn y fan honno caiff gyfle i sgwrsio â nifer o siaradwyr Cymraeg. Gellir ei weld yn aml hefyd yn pysgota yn ardal Porth Tywyn a beicio ar hyd ffordd arfordirol Penbre. 

Daw ei wraig o Loegr ac, ar ôl gweld ymdrechion Gareth, mae hithau hefyd erbyn hyn yn awyddus i ddechrau dysgu Cymraeg. Mae un o’r merched yn dysgu, yn ogystal, ac wedi cyrraedd Lefel Uwch!

Gobaith Gareth yw gwella’i sgiliau a datblygu i siarad Cymraeg yn rhugl, a’i neges i fyfyrwyr eraill yw bod rhaid cadw ati a dyfalbarhau – gan fod y wobr yn y pen draw yn werth ei chael. Mae pob math o fewnbwn yn werthfawr ac mae’n gwrando ar Radio Cymru a gwylio S4C yn rheolaidd. Mae ganddo ddau uchelgais, sef darllen Cysgod y Cryman yn Gymraeg, a gweld y Gweilch yn curo’r Scarlets!  

llinell