Dysgwyr:
Bronwen a Nick Raine
Llangrannog, Ceredigion
Sawl gwaith ydych chi wedi clywed am deulu o ochr draw Clawdd Offa yn dod i Gymru ar eu gwyliau ac yna’n symund yma i fyw’n barhaol? Gallwn feddwl am nifer fawr o enghreifftiau.
Ar y llaw arall, sawl gwaith ydych chi wedi clywed am deulu’n gwneud yr union beth hynny ond hefyd yn integreiddio’n llwyr i’r gymuned leol ddwyieithog a hyd yn oed yn anfon eu plant i ysgolion dwyieithog? Prin iawn yw’r achosion hynny ond dyna beth wnaeth y teulu Raine o Langrannog, sef Bronwen a Nick Raine a’u mab, Joe (13 oed), a’u hefeilliaid, Alice a Megan (10 oed).
Wedi diflasu ar eu bywyd yn Llundain yn gweithio ym myd logisteg, penderfynodd y teulu wireddu breuddwyd oes i Bronwen a symud i Langrannog. Roedd y cam yn un enfawr am nad oedd ganddyn nhw swyddi ar y pryd er bod y ddau erbyn hyn yn gweithio. Penderfynodd Nick ail hyfforddi i fod yn awdiolegydd yn ysbyty Singleton ac mae Bronwen yn gweithio rhan amser fel swyddog cyfle cyfartal i Lywodraeth y Cynulliad. Mae’n amlwg eu bod wedi ymgartrefu’n llwyr yn yr ardal ac maent yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith eu bod fel teulu yn cefnogi Cymru adeg gemau rybgi rhyngwladol ac mae Joe a’i dad yn meddu ar docynnau tymor i weld y Gweilch yn chwarae!
I bob pwrpas, mae’r holl beth yn swnio’n ddigon didrafferth ond mae’r teulu cyfan yn credu’n gryf mai dysgu’r Gymraeg a dylanwad y gymuned leol ddwyieithog yw’r ffactorau allweddol sydd wedi eu helpu i ymgartrefu yn yr ardal. Yn fwy na dim, mae’r diolch mwyaf yn mynd i Nic Dafis a’i gymar Philippa Gibson oherwydd yn fuan iawn ar ôl symud cafodd y teulu Raine alwad ffôn yn hollol ddirybudd gan Philippa yn gofyn a oedden nhw eisiau dechrau dysgu Cymraeg! Felly dyma fachu ar y cyfle i fwrw ati.
Mae gan Bronwen gefndir Cymraeg a daw’n wreiddiol o Donteg ger Pontypridd ac er i’w hen famgu siarad Cymraeg, ni chafodd yr iaith ei throsglwyddo i’r cenhedlaethau nesaf. Roedd hi’n awyddus iawn i’w phlant adfer iaith yr hen deulu a dechreuodd ddefnyddio rhai geiriau Cymraeg gyda’r plant tra oeddent yn byw’n Llundain. Hi oedd y cyntaf i fynychu dosbarthiadau Cymraeg ac erbyn hyn mae hi’n medru siarad Cymraeg yn dda iawn ar ôl cwblhau cyrsiau Wlpan a Phellach yn ogystal â hanner y cwrs Uwch. Ei thiwtor, gan amlaf, oedd Nic Dafis. Dechreuodd y cwrs Meistroli tua blwyddyn yn ôl ond mae hi wedi penderfynu cael saib am gyfnod er mwyn canolbwyntio ar ei chwrs MBA.
Dilynodd Nick drywydd gwahanol. Dyn dewr iawn sy’n cyfaddef nad oedd ef wedi sylweddoli bod y Gymraeg yn iaith fyw yn ardal Llangrannog a chafodd fraw ofnadwy wrth alw heibio’r garej ym Mrynhoffnant un diwrnod a chlywed pobl yn siarad iaith hollol ddieithr iddo! Aeth dwy flynedd heibio cyn i Nick fentro mynd amdani ond unwaith iddo roi tro arni doedd dim troi nôl. Erbyn hyn mae ef, fel ei wraig, wedi cwblhau cyrsiau Wlpan a Phellach gan ddechrau hefyd ar y cwrs Meistroli. Aeth ymlaen i ennill gradd A mewn TGAU Cymraeg ail iaith ac ef yw’r cyntaf i gydnabod bod ganddo berthynas agosach â’i gleifion yng Nghwm Tawe am ei fod yn medru siarad Cymraeg.
Mae’r ddau yn ddiolchgar iawn i Nic Dafis am ei gefnogaeth a’i ysbrydoliaeth. Maent yn gweld pethau fel maes-e yn hynod bwysig i’w galluogi i barhau i ddysgu’n anffurfiol. Nid rhywbeth dros dro yw dysgu Cymraeg, medden nhw, ond ymrwymiad oes. Rhaid manteisio ar gyfleoedd i adolygu a siarad yn rheolaidd a dyna beth sydd wedi ysgogi Bronwen i fod yn un o lywodraethwyr yr ysgol leol ac yn aelod o Ferched y Wawr Bro Cranogwen. Hefyd, mae’r teulu cyfan yn mwynhau mynd i Sesiwn Fawr Dolgellau a’r Eisteddfod bob blwyddyn. Mae’r tri phlentyn yn ymfalchïo yn ymdrechion ieithyddol eu rhieni ac mae’r Gymraeg iddyn nhw erbyn hyn yn rhywbeth hollol naturiol a di-ymdrech. Mae Joe yn mynd i Ysgol Dyffryn Teifi ac mae Alice a Megan hefyd yn mwynhau Cymreictod eu hysgol leol hwythau. Yng ngeiriau Bronwen a Nick, mae’r mwyafrif llethol o bobl y byd yn ddwyieithog a pham nad hwythau hefyd.