Dysgwr:
Gŵr o Gwm Rhymni yw ein dysgwr ar gyfer y rhifyn hwn a’r cof cynharaf sydd gan Mike o ddefnyddio’r Gymraeg yw canu caneuon Cymraeg adeg Gŵyl Ddewi pan yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Tir-y-berth, rhwng Hengoed a Phengam yng Nghwm Rhymni. Aeth Mike ymlaen wedyn i Ysgol Lewis i Fechgyn ac er iddo fwynhau’r gwersi Cymraeg yn fawr iawn roedd rhaid dewis rhwng y Lladin a’r Gymraeg. Bryd hynny, ei uchelgais oedd i fod yn feddyg felly dewisodd barhau â Lladin. O ganlyniad, doedd ganddo ddim cyfleoedd eraill i ddefnyddio’r iaith yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny ac mae Mike yn llawenhau yn y ffaith fod pethau mor wahanol erbyn hyn.
Aeth i’r brifysgol yng Nghaerdydd i astudio Biocemeg a bu’n gweithio yn y maes hwnnw mewn sawl ysbyty. Ymddeolodd yn 2005 o’i swydd fel rheolwr yr Adran Fiocemeg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ond mae ei wraig yno o hyd, yn gweithio yn yr Adran Feicrobioleg. Mae Mike ei hun yn dychwelyd yno’n achlysurol hefyd i gyflenwi ac mae wrth ei fodd yn ymarfer ei Gymraeg gyda’r aelodau eraill o’r staff a’r cleifion.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg ym mis Medi 2006 wrth wrando ar Radio Cymru a gwylio S4C. Yna, aeth ati i gwblhau cwrs dwys dan ofal Maldwyn Pate ym Morgannwg, gyda’r dosbarth yn cyfarfod dair gwaith yr wythnos am gyfnod o dair awr bob tro. Mae safon a rhuglder ei Gymraeg yn rhyfeddol ac mae Mike yn ffyddiog iawn mai hiwmor a hwyl y dosbarth yw’r nodweddion allweddol ar gyfer sicrhau llwyddiant wrth ddysgu iaith. Ar foreau Mawrth a Mercher y cynhelir y dosbarth eleni, sef y Dosbarth Uwch, ac mae ymroddiad Mike yn amlwg am ei fod yn darllen y colofnau Cymraeg yn y ‘Western Mail’ y boreau hynny wrth baratoi ar gyfer y dosbarth. Mae’n mwynhau defnyddio’r iaith ac yn ogystal â darllen amrywiaeth eang o lyfrau ac erthyglau, mae’n ysgrifennu llythyron yn y Gymraeg. Un person sydd wedi bod yn gefnogol iawn i’w ymdrechion i ddysgu Cymraeg ac sydd yn llythyru’n rheolaidd â Mike yw Malcolm Thomas, sef cyn-bennaeth Ysgol Gyfun Glantaf a chyn-ddyfarnwr rygbi.
A sôn am rygbi...
Bu Mike yn ddyfarnwr rygbi gydag Undeb Rygbi Cymru o 1978 i 1997. Yn ŵr pwyllog ac urddasol, mae’n siwr ei fod yn llawn haeddu ei safle bresennol fel ymgynghorydd dyfarnu. Cafodd fwynhad mawr wrth deithio ledled Cymru yn dyfarnu, gan deithio dramor ar adegau hefyd, yn enwedig pan yn helpu gyda thîm rygbi ieuenctid Pontypridd. Bu hefyd yn dyfarnu ac yn chwarae gyda’r tîm ‘Veteran’ ar deithiau’r Llewod yn y gorffennol! Yn sicr, o ran y Gymraeg, teimla fod y byd chwaraeon wedi gweld llawer o newidiadau gyda’r iaith yn dod yn fwy poblogaidd a cheir mwy o ddefnydd ohoni fel cyfrwng cyfathrebu rhwng dyfarnwyr a chwaraewyr.
Mae ganddo neges glir i ddysgwyr eraill, sef daliwch ati i ddarllen, gwylio a gwrando ar yr iaith. Dyma sut y mae ef wedi datblygu ei sgiliau ardderchog ef yn Ffrangeg yn ogystal â’r Gymraeg er ei fod yn cyfaddef bod ei sgiliau Ffrangeg ychydig ar y blaen. Ond am ba hyd, tybed?! Mae’n cynnig ateb diddorol iawn i’r cwestiwn beth yw ei obaith i’r iaith Gymraeg - hoffai weld y Gymraeg yn datblygu yn yr un modd â’r iaith Tsieceg! Datblygodd honno o fod yn iaith israddol, iaith y tlodion, i fod yn iaith lewyrchus sy’n mwynhau statws uchel.
Yn ogystal â mynychu dosbarth Cymraeg ddwy waith yr wythnos, ymdrechu i wella’i sgiliau Sbaeneg, Eidaleg a Groeg, a bod yn ymgynghorydd dyfarnu, mae Mike hefyd yn gyrru’n rheolaidd i gwmni llogi ceir.
Ymddeol?