# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009
   Dysgwr:
dysgwrpic4.gif  

Mae’r cyfenw’n ddigon i awgrymu bod gan y wraig hon a’i theulu gefndir ieithyddol diddorol. Mae Maria’n dod yn wreiddiol o Swydd Efrog a bu’n gweithio fel athrawes mewn ysgol gynradd yng Nghaerfaddon am rai blynyddoedd cyn symud i Gymru 10 mlynedd yn ôl. Mae’n byw gyda’i gŵr, sy’n feddyg, a’r tri mab yng Nghlydach.

Fel yr awgryma’r cyfenw, daw ei gŵr o’r Almaen yn wreiddiol ond, yn rhyfedd iawn, ieithoedd yr aelwyd yw Gaeleg yr Alban a Saesneg! Symudodd teulu’r gŵr o’r Almaen i ynys fechan yn yr Alban pan oedd yntau’n blentyn bach gan fod y tad yn Weinidog ac yn gorfod symud o ganlyniad i’w waith. Gwnaethpwyd ymdrech fawr gan y teulu i ymdoddi i’r gymuned Gaeleg leol ac o fewn ychydig amser roedd y teulu’n rhugl yn yr iaith leol hefyd, sef Gaeleg yr Alban. Erbyn hyn, mae rhieni yng nghyfraith Maria wedi eu claddu ar ynys fechan Gigha ger Mull of Kintyre ond mae cysylltiadau’r teulu â’r ardal yn parhau yn gryf.

Mae’r tri mab yn mynd i ysgol gynradd Gymraeg, sef Ysgol Gellionnen, felly mae’r tri yn eithaf rhugl yn y Gymraeg yn ogystal â’r Gaeleg, gan mai dyna’r unig iaith y maent yn ei defnyddio i siarad â’u tad. Ar un adeg bu’r tad yn cynnal dosbarthiadau dysgu Gaeleg yng Nghaerdydd ond Saesneg yw iaith y cyfathrebu rhwng Maria a’i gŵr.  

Cyn symud i Gymru doedd gan Maria ddim diddordeb o gwbl mewn dysgu ieithoedd eraill ond ers dechrau mynychu dosbarthiadau’n rheolaidd mae hi’n mwynhau’r profiadau’n fawr iawn. Llwyddodd yn yr arholiad Mynediad y llynedd ac mae hi wedi dechrau’r cwrs Sylfaen eleni. Dywed fod hiwmor yn hanfodol wrth ddysgu iaith a cheisio datblygu hyder i ddefnyddio’r sgiliau newydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r gwersi gan eu bod yn llawn chwerthin ac mae’r dysgwyr eraill yn gyfeillgar iawn. Teimla fod ei thiwtor, sef Lowri Gwenllian, yn arbennig o dda am dynnu’r gorau allan o bob unigolyn. Un o nodweddion y gwersi sy’n gweithio’n dda iddi hi yw’r arfer o gadw dyddiadur. Teimla fod hynny’n mireinio’r meddwl ac yn atgyfnerthu gwaith y dosbarth. Mae’r drefn bresennol yn apelio ati’n fawr iawn a chynhelir y gwersi ddwy waith yr wythnos, ar ddydd Llun a dydd Mercher.

Mae ei diddordebau’n cynnwys gwylio rhaglenni S4C er mwyn defnyddio ac ymestyn ei sgiliau iaith a’i hoff raglenni yw Con Passionate, Pobol y Cwm, Casa Dudley… a’r tywydd! Wrth fwrw ati i ddysgu’r Gymraeg yn y lle cyntaf, penderfynodd ymrwymo’n llwyr i’r dysgu gan ymdrechu i wneud popeth o fewn ei gallu i hybu’r broses ddysgu. Mae’n darllen llyfrau Cymraeg gan fwynhau Blodwen Jones yn fawr iawn yn ogystal â llyfrau plant o bob math! Mae Maria’n helpu’n wirfoddol yn Ysgol Gellionnen bob dydd Iau ac yn teimlo bod y profiad hwnnw hefyd, yn bendant, yn rhoi hwb iddi o ran y Gymraeg.

Bydd ganddi ddau uchafbwynt y flwyddyn nesaf, sefyll yr arholiad Sylfaen a chymryd rhan yn y Moonwalk yn Llundain, sef taith gerdded 26 milltir i godi arian tuag at Elusen Cancr y Fron. Cynhelir y Moonwalk yn ystod y nos a byddant yn dechrau’r daith am hanner nos. Dyw hi ddim yn siwr eto pa un o’r ddau fydd angen y mwyaf o waith paratoi!

Hoffai fynychu cwrs preswyl naill ai yn Llangrannog neu yn Nant Gwrtheyrn yn y dyfodol agos er mwyn cyrraedd y nod o fod yn ddigon rhugl yn y Gymraeg i fedru cyflawni swydd cynorthwyydd dosbath mewn ysgol Gymraeg.

Mae ei gŵr erbyn hyn hefyd yn dechrau troi ei olygon tuag at ddysgu’r Gymraeg ac mae’n ddigon posib, felly, y bydd dwy iaith Geltaidd yn atseinio ar yr aelwyd arbennig hon o fewn blwyddyn neu ddwy.

digwydd3ii.jpg