# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
dysgwrpic.jpg  
   Dysgwr:

A oes stereoteip o ddysgwr? Dyna i chi gwestiwn mawr. Neu fe allech droi’r cwestiwn ar ei ben – a oes stereoteip o rywun sydd ddim yn ddysgwr? Cwestiynau annheg a sarhaus, rhaid cyfaddef. Ond pe bawn yn gorfod rhoi Carl Morris mewn categori (a dw i’n siwr y byddai’n cicio’n erbyn y tresi’n arw pe bai’n gwybod hynny!), heb unrhyw amheuaeth o gwbl byddai’n rhaid i mi ei osod yn y categori hynny sydd yn cynnwys y bobl lleia’ tebygol o ddysgu Cymraeg.
    Gan ddibynnu ar athroniaeth hollol amaturaidd, pwy fyddai’n credu y byddai bachgen 27 mlwydd oed o Gaerdydd, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Cantonian a pherchennog cwmni cerddoriaeth eisiau mynd i’r afael â dosbarth Wlpan? Serch hynny, wrth grafu o dan yr wyneb fe welwch nad yw hynny hanner mor syfrdanol ag y tybiwyd.

Symudodd Carl Morris i Gaerdydd o Slough pan yn naw oed ond mae ganddo wreiddiau Cymraeg. Bu ei fam-gu a’i dad-cu o ochr ei dad yn byw yng Nghwm Aman cyn symud i Slough yn y 1940au ac mae Carl wrth ei fodd yn dweud mai enw’r stryd lle bu’n byw yn Slough oedd Glanmor Road. Daw ei fam o Malaysia ac fe welwch yr un direidi yn ei lygaid pan yn dweud mai enw’r stryd lle bu ei fam yn byw ym Malaysia oedd Caernarfon Road!

Ffawd, efallai?

Wrth brocio ychydig mwy, mae Carl yn cyfaddef nad oedd ganddo lawer o ddiddordeb yn y Gymraeg pan yn ddisgybl ysgol ac na roddwyd llawer o statws i’r iaith bryd hynny. Mae’n cofio teimlo nad oedd cyfleoedd yn bodoli i ddefnyddio’r Gymraeg felly fe benderfynodd ddewis Ffrangeg yn hytrach na Chymraeg. Ond daeth tro ar fyd, ac yntau ond yn 15 oed! Clywodd y gân ‘The Patio Song’ gan Gorky’s Zygotic Mynci ar Radio 1 a dyma esgor ar frwydfrydedd mawr ac afieithus tuag at y Gymraeg.
    Law yn llaw â’r diddordeb mawr yn y Gymraeg tyfodd hefyd ei ddiddordeb di-ben-draw mewn cerddoriaeth o bob math. Aeth ati, gyda ffrind, i ddechrau cwmni cerddoriaeth, sef my kung fu (www.my-kung-fu.com). Erbyn hyn, mae e wedi gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg gyda Richard James o Gorky’s ac wedi recordio cerddoriaeth Cerys Matthews. Llynedd, yn dilyn sefydlu’r cysylltiadau cryf hyn â cherddorion a bandiau Cymraeg, fe benderfynodd ddysgu Cymraeg. Mae’n bwysig iawn i Carl mai ei benderfyniad annibynnol ef oedd hynny, ac nad oedd unrhyw elfen o orfodaeth, fel yn yr ysgol.
    Penderfynodd mai’r cwrs dwys, yr Wlpan, fyddai’n ei siwtio orau ac ymrwymodd i fynychu dosbarth Cymraeg bum gwaith yr wythnos, o 8.00 y.b. tan 9.30 y.b., dan ofal Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae’n awyddus iawn i barhau â’r ymdrechion a bydd yn dechrau dosbarth Pellach y tymor hwn. Yn bendant, mae’n gweld manteision mawr i allu siarad Cymraeg a’r drysau y gall hynny eu hagor iddo, o ran gwaith ac yn gymdeithasol. Aeth ar sawl ymweliad â’r Eisteddfod yng Nghaerdydd i brofi ei fod yn medru ac yn barod i siarad Cymraeg â phawb!


Llun gan Michaela Allen

dysgwrpic2.jpg  
Mae e hefyd yn ceisio ymgorffori’r Gymraeg i mewn i’w fenter ddiweddaraf, www.sleeveface.com Gallwch ddarllen mwy am hynny ar ddiwedd yr erthygl hon.

Mae ei ddiolch yn fawr i’w diwtoriaid i gyd, a dywed fod Walter Brooks yn arbennig wedi creu argraff arno. Ei gyngor mwyaf i ddysgwyr eraill yw ewch i’r dafarn er mwyn ymarfer eich Cymraeg! Y Mochyn Du a Chlwb Ifor Bach yw ei hoff dafarnau yng Nghaerdydd ar gyfer ymarfer siarad Cymraeg ac mae’n cynnig cwrdd ag unrhyw un yno sydd eisiau ychydig o ymarfer!
    Gydag holi ymhellach, nid yw Carl yn barod i ddatgan sut yn union y mae’n gweld ei hunan - ai Cymro ydyw ynteu rhywun sy’n perthyn i genedl arall? Mae hynny’n arwyddocaol mewn ffordd bositif a rhaid myfyrio am ennyd i werthfawrogi beth y mae’r gŵr ifanc hwn yn ceisio ei gyfleu. Wrth fynychu dosbarth Cymraeg, mae’n dangos ei ymrwymiad clir i’r iaith ac mae’n defnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar ei fywyd. Felly, nid oes angen ceisio ei roi mewn unrhyw gategori na cheisio gludo label ar ei gefn. Mae ei weithred yn dweud y cyfan.

Atodiad:
Sleeveface yw’r ffenomenon diweddaraf i daro’r we... a’ch casgliad recordiau! Y cyfan sydd ei angen ydy clawr LP a wyneb (golygus ai peidio), a dyna chi – mae gennych wyneb Sleeveface!

Casglwch eich cyfeillion a mwy o gloriau LP at ei gilydd i gael PARTI Sleeveface!

Fel yr eglurodd Carl Morris, un o ddyfeiswyr Sleeveface...

‘Dechreuodd Sleeveface pan o’n i’n DJ yn y Forecast yng Nghaerdydd ac erbyn hyn dw i wedi gweld lluniau gan bobl o gwmpas y byd. Dw i eisiau gweld mwy o luniau Sleeveface yn dod o Gymru - gydag artistiaid Cymraeg yn cymryd rhan. Felly mae croeso i unrhyw un  e-bostio lluniau ata i. Ar hyn o bryd, dw i’n paratoi llyfr o luniau Sleeveface gyda chwmni cyhoeddi yn Efrog Newydd. Dw i eisiau rhoi Saunders Lewis ar glawr cefn y llyfr gyda chlawr y recordiad enwog Tynged yr Iaith.’

Am fwy o wybodaeth ewch i:

dots.jpg