# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009

dysgwr8.jpg
Profiadau dysgwr...

Ces i fy ngeni ym Manceinion a ches i fy magu yn yr ardal o gwmpas y ddinas. Gadawais i’r ysgol yn 1975 ac mi ges i swydd fel clerc efo’r Gwasanaethau Cymdeithasol ym Manceinion. Roedd y swydd honno yn eitha gwahanol oherwydd, o bryd i’w gilydd, ro’n i hefyd yn arfer mynd allan gyda’r gweithwyr cymdeithasol i helpu cludo’r plant o le i le.

Ar ôl hynny mi wnes i nifer o wahanol swyddi, er enghraifft, ro’n i’n blismones ym Moss Side am tua chwe blynedd pan oedd y terfysgoedd yn yr ardal ac roedd hynny’n adeg ofnadwy. Wedyn ro’n i’n berchennog siop gornel yn Swydd Gaerlleon, cyn dechrau gweithio fel symudwr cwch cul yn symud cychod cul ledled rhwydwaith camlas Lloegr.Yn ogystal â gweithio yno, treuliais i tua deunaw mis yn byw ar gwch cul fy hunan. Mi wnes i fwynhau fy hunan yn fawr iawn am y cyfnod byr hwnnw ymhlith y gymuned ar y camlesydd. Roedd hynny’n adeg fythgofiadwy a chyffrous, ac unwaith mi ges i gyfle i deithio i fyny Afon Tafwys trwy ganol Llundain, a heibio llefydd enwog fel San Steffan, Pont Llundain, Y Bont Ddŵr, a Phlas Hampton Court.

Daeth tro ar fyd pan symudais i Gymru ym mis Rhagfyr 2005, ond wnes i ddim dechrau dysgu Cymraeg tan fis Medi 2006. Dechreuais ddysgu yng Ngholeg Abergele efo Popeth Cymraeg, ac wedyn ymunais â chwrs Dadawgrymeg Popeth Cymraeg yn Ninbych. Mae’r cwrs yn ardderchog ac yn eich galluogi chi i ddysgu Cymraeg yn gyflym iawn. Ers hynny dw i wedi cael llawer o hwyl wrth ddysgu’r iaith Gymraeg, ac erbyn hyn dw i wedi pasio arholiadau canolradd ac uwch. Dw i hefyd wedi cystadlu ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Eisteddfod y Tai Llansannan.

Hefyd, ro’n i’n un o’r bobl lwcus hynny i gyrraedd Rownd Gynderfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni yn Nolgellau. Cynhaliwyd y rownd gynderfynol yn Nolgellau ar y 9fed o fis Mehefin, ac roedd ugain o ddysgwyr yn cymryd rhan. Mi es i efo fy ngŵr Dennis a Cath Williams, fy ffrind o Sadwrn Siarad Llansannan, oedd wedi fy enwebu. Ar ôl cyfweliad cyfeillgar ac anffurfiol yng Ngwesty’r Ship, gyda’r tri beirniad, cawson ni ginio yn Y Sosban, ochr arall y sgwâr, cyn mynychu gweithdy Telyn yn Nhŷ Siamas. Ar y cyfan bu’n ddiwrnod diddorol dros ben, a byddai’n brofiad gwych i unrhyw ddysgwr petaen nhw’n cael y cyfle i gymryd rhan.

Er mwyn ymlacio dw i wrth fy modd yn cerdded ar hyd llwybr yr arfordir ac o gwmpas y bryniau y tu ôl i’n tŷ ni, a llefydd eraill yng Ngogledd Cymru. Dw i’n hoffi darllen hefyd, yn enwedig llyfrau gwybodaeth. Yn y gorffennol ro’n i’n aelod o glwb beic modur o’r enw ‘Adain Aur.’ Ro’n i’n arfer reidio Adain Aur 1500cc, gan hyfforddi i fod yn hyfforddwr beic modur gyda’r I.A.M. (Institute of Advanced Drivers).

Erbyn hyn, yn hytrach na reidio beiciau modur, dw i’n aelod o Ferched Y Wawr Abergele, ond drwy wneud hynny dw i’n dal i gyfarfod llawer o bobl ddiddorol ac yn gwneud pethau amrywiol faswn i erioed wedi eu gwneud o’r blaen.

Dw i wedi cael llawer o uchafbwyntiau ar fy nhaith fel dysgwr, a gobeithio bod llawer i ddod eto.


   rule8col.gif