Cyfle i dîm Canolfan Cymraeg i Oedolion y De Orllewin gael sylw’r wasg!
Doedd yr amseru ddim yn berffaith - cwpl o ddyddiau ar ôl y Nadolig, neb mewn hwyliau da am fod y gwyliau a’r hwyl tymhorol drosodd am flwyddyn arall a’r tywydd yn oer, gwlyb a niwlog...
Dros ddishgled o de dyma’n Rheolwr Busnes yn crybwyll yn ddi-ffwdan bod rhywun eisiau dod i dynnu ein llun, a hynny ar gyfer y cylchgrawn enwog hwnnw, "Swansea Bay Business Life”."Cafwyd cwpl o ddyddiau o rybudd felly - lwcus iawn a minnau â phythefnos o flew ar fy mochau. Ond yn anffodus doedd hynny ddim yn ddigon o rybudd i mi fedru gwneud unrhywbeth am y gor-fwyta, y gor-yfed a’r gor-fwynhau sydd yn anochel dros y Nadolig ac sy’n gyfrifol am newid siâp y corff rhywfaint....
Ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach a dyna oedden ni, holl staff y Ganolfan yn ffugio bod yn Naomi Campbell am hanner awr. Doedd y ffotograffydd ddim yn hapus gydag adeilad y Ganolfan felly roedd rhaid i bawb gerdded y ‘catwalk’ draw drws nesaf i Adeilad Dewi Sant, adeilad newydd sbon, llawer mwy ‘media-friendly!’
"Edrychwch ffordd hyn ....gwenwch ... symudwch eich breichiau ychydig... i’r chwith ... na, i’r dde ychydig... cadwch eich llygaid ar agor os gwelwch yn dda......” Fflach! "Reit. Peidiwch symud nawr, edrychwch arna i eto.. gwenwch...” Fflach!
Nesaf, draw i’r patio sydd ar bwys y Ganolfan, llun o’r staff tu fas, yn yr awyr agored a’r tymheredd o dan y rhewbwynt unwaith eto. Gyda’r pwll ger y patio wedi rhewi’n galed a’r niwl yn dechrau disgyn arnon ni, dim ond Steve oedd yn gynnes yn ei got – roedd y gweddill ohonon ni wedi dechrau crynu yn yr oerfel.
Rhoddwyd y deg ohonon ni i sefyll mewn rhesi, siâp triongl yn null y Red Arrows yn wynebu’r ffotograffydd. Ond yn lle’r mwg coch, gwyn a glas, dim ond ein hanadl ni oedd i’w weld yn yr oerfel. Yna siom a thristwch - doedd dim digon o olau i gael llun da felly nôl i gynllun A.
O fewn ychydig o ddyddiau daeth pentwr o gylchgronau i’r swyddfa a phawb yn byseddu’r tudalennau’n gyflym iawn i ddod o hyd i’r erthygl a’r llun. Ac yn rhannu tudalennau ‘bywyd busnes’ gyda PricewaterhouseCoopers a’u diffygion atalnodi, Cwmni Telesgôp yn datblygu’n ddigidol a chyn Uwch Siryf Gorllewin Morgannwg yn siarad am yr economi’n cael ei rhedeg gan gowbois, y mae tudalen llawn lliw, a llun hyfryd o dîm y Ganolfan yn syllu’n angylaidd o’r uchelfannau.
Rhyfedd nad yw’r camera byth yn twyllo. Gor-fwyta? Gor-yfed? Gor-fwynhau? Efallai ei bod hi’n bryd gwneud adduned blwyddyn newydd.