# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

   Newyddion Canolfan Morgannwg

Cyfle i glywed awduron yn trafod eu gwaith

Er mwyn datblygu’r Sadyrnau Siarad eleni, gwahoddir tri awdur i ddod i drafod eu gwaith gyda’r dosbarthiadau Uwch. Bu Alun Jones ym Merthyr yn mis Ionawr ond mae dau gyfle ar gael i ddysgwyr o Ganolfan Morgannwg a chanolfannau cyfagos i ddod i glywed Bethan Gwanas mewn Sadwrn Siarad ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 23 Chwefror, a Lyn Ebenezer yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg ar 7 Mawrth. Bydd sesiynau dysgu arferol yn ystod y bore, gyda’r awduron yn ymuno yn y prynhawn. Os yw pobl am ddod i sesiwn y prynhawn yn unig, codir tâl o £5. Croeso i bawb – gan gynnwys tiwtoriaid!


Anrhydeddu Basil Davies

Mewn seremoni raddio ar Ragfyr 15fed, gwnaed Basil Davies yn gymrawd Prifysgol Morgannwg. Ceir isod ddyfyniad o’r hyn oedd yn rhaglen y seremoni:

Cafodd Basil Davies yrfa faith a diwyd a bu’n dysgu mewn ysgol uwchradd ac yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Y Bari cyn cael ei benodi’n Bennaeth y Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd, yr ysgol gyfun gyntaf i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dychwelodd i Goleg y Bari ble dechreuodd ar yrfa ddysgu doreithiog ar y cyd â Cennard Davies ar un o’r cyrsiau dwysaf yn hanes Cymraeg i Oedolion. Am dros chwarter canrif arweiniodd a chyflwynodd Basil y cyrsiau hyn, yn y Bari yn gyntaf ac yna yn Nhrefforest. Penodwyd ef yn Brif Ddarlithydd ac yn Arweinydd y Cwrs Dwys ym Mhrifysgol Morgannwg am nifer o flynyddoedd cyn ei ymddeoliad yn 2004. Trwy gydol y cyfnod hwnnw roedd yn Brif Arholwr arholiad arloesol ‘Defnyddio’r Gymraeg’ a ddatblygodd yn y pen draw i’r gyfres o arholiadau cyfredol a weinyddir gan Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru ac sy’n rhan o strwythur yr antur fawr o ddysgu’r Gymraeg.

Basil Davies wrth ei

fodd o flaen dosbarth.
basil.jpg  

Fel arloeswr ac arweinydd ym maes dysgu Cymraeg i Oedolion, gwnaeth Basil Davies gyfraniad enfawr yn ystod ei yrfa i addysgu pobl Cymru. Cafodd gwaith ei fywyd ddylanwad ar filoedd a chyfrannodd mewn modd unigryw a pharhaol tuag at fywyd diwylliannol, addysgol a chymdeithasol ei wlad. Symbylodd nifer helaeth o bobl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn ogystal â symbylu cenedlaethau o athrawon iaith yng Nghymru i anelu at y safonau uchaf wrth ymwneud â’r gwaith. Fel athro ymroddedig ac ysgolhaig Cymraeg, ystyrir Basil Davies gan lawer yn drysor cenedlaethol ac mae’n addas ein bod yn anrhydeddu ei gyfraniad a chydnabod yr enw da a roddir iddo ledled Cymru.



Cwrs Nadolig

Ers rhai blynyddoedd mae wedi bod yn arferiad i gynnal Ysgol Galan. Fodd bynnag, oherwydd amseriad y gwyliau eleni penderfynwyd cynnal Cwrs Nadolig yn lle hynny. Roeddem ychydig yn amheus a fyddai pobl yn dod i gwrs deuddydd yng nghanol prysurdeb y Nadolig ond daeth 70 ynghyd a chafwyd cwrs hyfryd gyda naws Nadoligaidd. Diolch i’r Tiwtor am ddarparu nifer o weithgareddau tymhorol.


purpleline.jpg