# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 5 Chwefror 2009

  Ysgoloriaeth
  Dan Lynn James
  2009

£1,000
Dyddiad Cau: 1 Mawrth 2009

Pwrpas Ysgoloriaeth Dan Lynn James yw rhoi cymorth ariannol i ddysgwyr sydd am wella eu Cymraeg a’i defnyddio yn eu bywyd bob dydd. Ystyrir y cais gan banel o ymddiriedolwyr CYD.


Rheolau ac amodau

1.  Cynigir ysgoloriaeth o hyd at £1,000.

2.  Ni ellir ystyried cais gan unrhyw ymgeisydd nad yw’n ateb pob cwestiwn ar y ffurflen gais ac amgáu geirda gan ganolwr (e.e. gallai fod yn diwtor Cymraeg, cyflogwr, cynghorydd).

3.  Ni ellir ystyried unrhyw gais a dderbynnir ar ôl 1 Mawrth 2009.

4.  Gall ymgeisydd wneud cais am ysgoloriaeth i ariannu unrhyw gwrs, gweithgaredd neu brosiect a fydd yn ei gynorthwyo i wella a defnyddio’r Gymraeg. Rhoddir blaenoriaeth fodd bynnag i ymgeiswyr sydd yn awyddus i fynychu cyrsiau dwys a dysgwyr sydd am barhau â’u hastudiaethau neu sydd am ddilyn cwrs mewn pwnc arall trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd disgwyl i bob ymgeisydd ddangos bwriad i ddefnyddio’r Gymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

Dylai pob ymgeisydd ddangos na allai ymgymryd â’r cwrs/gweithgaredd/prosiect heb gymorth yr ysgoloriaeth.

5.  Bydd penderfyniad y panel yn derfynol. Ni fydd hawl gan berthnasau ymddiriedolwyr CYD i wneud cais.

6.  Rhoddir ateb i’r ymgeisydd llwyddiannus erbyn 20 Mawrth 2009.

7.  Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos tystiolaeth o wariant o fewn deuddeg mis i dderbyn yr ysgoloriaeth. O fethu â gwneud hynny, bydd CYD yn cadw’r hawl i fynnu ad-daliad am yr holl swm a roddwyd.


Dylai ffurflen gais fod wedi ei hamgáu gyda’r daflen hon.
Os nad oes gennych chi ffurflen, cysylltwch â CYD yn y cyfeiriad uchod.


purpleline.jpg