Bronwen Dorling
– un o’n dysgwyr llwyddiannus
Symudodd Bronwen a’i gŵr David i Gymru naw mlynedd yn ôl a mynd i fyw yn Arthog sef pentref bychan yn Sir Feirionydd, nepell o Ddolgellau. Yn 2001 dechreuodd ddysgu Cymraeg gan fynychu dosbarthiadau dan ofal Coleg Meirion-Dwyfor a Phrifysgol Aberystwyth. Erbyn hyn mae Bronwen wedi croesi’r bont ac yn rhugl yn yr iaith. Am y flwyddyn ddiwethaf mae hi wedi bod yn astudio ar gyfer y radd allanol gyda Phrifysgol Aberystwyth yn ogystal â gweithio’n achlysurol yn Siop y Dydd yn Nolgellau. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio yno oherwydd y cyfleon di-ri i siarad Cymraeg!
Mae hi’n hoff iawn o ddarllen ac ar hyn o bryd mae hi’n mwynhau darllen Llyfr Y Flwyddyn 2005, sef ‘Martha, Jac a Sianco’ gan Caryl Lewis. Yn ôl Bronwen, ‘mae dysgu Cymraeg wedi agor fy llygaid i ddiwylliant a hanes Cymru.’
Cystadlaethau Merched y Wawr ar gyfer Dysgwyr
• Ysgrifennu dyddiadur wythnos
• Sgwrs ar dâp neu CD gydag aelod o Ferched y Wawr (boed mewn cangen, clwb neu yn aelod unigol) ar y thema ‘Amser Hamdden’ - dysgwr i ateb.
• Creu cerdyn cyfarch doniol
Mae’r cystadlaethau yn agored i bawb sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Gofynnir i’r cystadleuwyr nodi lefel eu gallu o’r iaith yn y tair cystadleuaeth. Mae hawl ymgeisio ymhob cystadleuaeth.
Dyddiad cau: 16 Mawrth 2009
Bydd y buddugwyr yn derbyn tocyn llyfr a thlws yn yr Ŵyl Haf ym Machynlleth ar 16eg o Fai 2009. Os mai merch fydd yn fuddugol, bydd yn derbyn aelodaeth blwyddyn o Ferched y Wawr yn ogystal.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr ar 01970 611 661 neu swyddfa@merchedywawr.com
Anfonwch y ceisiadau a’r slip isod i’r cyfeiriad canlynol erbyn 16 Mawrth 2009:
Cystadleuaeth y Dysgwyr, Canolfan Cenedlaethol Merched y Wawr,
Stryd yr Efail, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1JH
Enw: ………………………………….…...
Rhif ffôn: ………………......……………
Cyfeiriad: …………………………………………...………………………...……..
………………………………………………... E-bost:………………....…………
Lefel eich gallu yn y Gymraeg: .…………....…………………………………