Mae Clwb Dysgwyr Caerdydd a’r Fro yn mynd o nerth i nerth gyda 250 o aelodau hyd yn hyn. Mae’r clwb, sydd am ddim, yn cynnig amrywiaeth fawr o weithgareddau ar gyfer dysgwyr bob mis.
Dros y ddau fis nesaf mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu e.e. taith i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i weld yr arddangosfa Gwreiddiau - "Canfod y Cymry Cynnar", taith i Gastell Caerdydd, taith gerdded yn y Fro, clwb Scrabble, noson fowlio deg a nifer o bethau eraill. (Gweler holl fanylion y gweithgareddau isod). Mae côr y dysgwyr hefyd yn tyfu bob wythnos gyda 15 o aelodau hyd yn hyn.
Mae croeso mawr i bob dysgwr yn yr ardal i fod yn rhan o’r clwb hwn ac mae croeso mawr iddynt i ddod i unrhyw weithgaredd. Mae’r clwb yn cynnig cyfle i ddysgwyr o unrhyw lefel i ddod at ei gilydd i ymarfer Cymraeg ac i gael hwyl ar yr un pryd.
Dywedodd Madison Tazu sef enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2008:
"Y cyngor gorau galla i roi i bobl sy’n dysgu Cymraeg yw i beidio bod yn swil ac i Siarad! Siarad! Siarad! Roedd y dosbarthiadau Cymraeg yn ardderchog, ond heb y cyfleoedd oedd ar gael i mi tu allan i’r dosbarth faswn i byth yn gallu siarad Cymraeg cystal ag y galla i erbyn heddiw. Mae’r gweithgareddau bob amser yn llawn hwyl ac mae pawb bob amser yn gyfeillgar a chroesawgar”"
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cynnig Penwythnos Cymraeg am ddim i’w dysgwyr. Cynhelir y cwrs hwn yn Hen Neuadd yn y Bontfaen ar 24 a 25 Ionawr. Bydd Helfa Drysor, cwis, gweithdy gwneud cardiau Santes Dwynwen, a llawer o wersi ac adolygu ar gyfer pob lefel. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg ar 029 20 874 710 neu e-bostiwch cymraegioedolion@cf.ac.uk
Bowlio Deg - Nos Fawrth 17 Chwefror 2009.
Ydych chi eisiau ymarfer eich Cymraeg yn ystod hanner tymor? Os ydych, dewch i fwynhau cwmni dysgwyr eraill o bob lefel wrth fowlio deg lawr yn y Bae.
Canolfan Red Dragon, Bae Caerdydd, 6.45 yh i ddechrau bowlio am 7 o’r gloch. £4 yr un i’w dalu ar y diwrnod.
Gweithgaredd y Mis
Arddangosfa Gwreiddiau - "Canfod y Cymry Cynnar", AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD - Dydd Sadwrn 21 Chwefror 2009
Dewch i ddarganfod o ble ddaeth y Cymry ar y daith ddiddorol hon o amgylch arddangosfa "Y Gwreiddiau" yn yr Amgueddfa. Bydd tywysydd dwyieithog yn ein harwain o amgylch ac felly bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau yn y Gymraeg neu Saesneg ar y daith.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 12 yh. AM DDIM
Côr Dysgwyr Caerdydd a'r Fro
Dewch i ymuno â chôr y dysgwyr. Mae 15 o aelodau erbyn hyn ac mae nifer o gyngherddau ar y gorwel. Mae croeso mawr i bawb o bob lefel.
Bob nos Fercher yng Nghanolfan Severn Road, Treganna, 7 o’r gloch.
Clwb Scrabble yn Gymraeg yng Nghaerdydd
Mae’r clybiau Scrabble yng Nghaerdydd a’r Bari wedi newid eu lleoliadau a’u hamser. Dewch i un o’r clybiau newydd i wneud ffrindiau ac i wella eich geirfa. Gallwch ddod cyn eich gwers Gymraeg efallai er mwyn dysgu rhagor o eiriau cyn mynd i mewn.
Caerdydd: Sesiwn gyntaf: Nos Lun 19 Ionawr 2009. 6 o’r gloch. Caffi Adran y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd.
Y Bari: Dydd Llun 19 Ionawr 2009. 11.30. Canolfan Palmerston, Y Bari.